Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 1 Tachwedd 2021
Amser:
14.00
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Gareth Price - Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
Deisebau@senedd.cymru
------
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
(Tudalennau 1 - 30)
2 Deisebau newydd
2.1 P-06-1187 Dylid cynnig brechiad Covid-19 i blant sy'n agored i niwed yn glinigol
(Tudalennau 31 - 37)
2.2 P-06-1193 Gofynnwch i Lywodraeth y DU am ganiatâd i gynnal refferendwm ar ddychwelyd pwerau datganoledig
(Tudalennau 38 - 43)
2.3 P-06-1194 Deddfu i roi’r hawl i rydd-ddeiliaid mewn eiddo sydd newydd eu hadeiladu yr hawl i reoli eu hystadau eu hunain
(Tudalennau 44 - 50)
2.4 P-06-1195 Cynnal ymchwiliad annibynnol i farwolaeth Glyn Summers a gweithredoedd Coleg y Cymoedd
(Tudalennau 51 - 57)
2.5 P-06-1197 Gwasanaeth sgrinio’r galon am ddim i bob plentyn rhwng 11 a 35 oed sy'n cynrychioli ei ysgol neu sir mewn chwaraeon
(Tudalennau 58 - 67)
2.6 P-06-1200 Dylid gwneud rhwymo ceffylau yn anghyfreithlon ac yn weithred o greulondeb yng Nghymru, ni waeth a oes gan y ceffylau gysgod neu beidio
(Tudalennau 68 - 74)
2.7 P-06-1201 Gwahardd saethu rhywogaethau adar sydd mewn perygl difrifol a rhoi’r diogelwch sydd ei angen mor daer arnynt!
(Tudalennau 75 - 80)
2.8 P-06-1202 Dylid gwahardd lladd cywion diwrnod oed yng Nghymru
(Tudalennau 81 - 87)
2.9 P-06-1205 Buddsoddwch mewn amddiffynfeydd llifogydd ar y Tywi yng Nghaerfyrddin gan gynnwys ardal y Cei
(Tudalennau 88 - 93)
2.10 P-06-1209 Dylid creu rhestr o bob gofalwr di-dâl yng Nghymru
(Tudalennau 94 - 100)
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
3.1 P-05-954 Deiseb yn galw am ymchwiliad cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru i gam-drin plant hanesyddol ar Ynys Byr
(Tudalennau 101 - 106)
3.2 P-06-1203 Peidiwch â chyflwyno pasbortau brechlyn COVID-19 ar gyfer lleoliadau manwerthu a lletygarwch neu leoliadau eraill
(Tudalen 107)
Yr amgylchedd
3.3 P-05-1003 Mynnu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi’i halogi’n radiolegol yn nyfroedd Cymru
(Tudalennau 108 - 122)
3.4 P-05-1071 Dylid argraffu rhif cofrestru cerbydau ar becynnau bwyd brys a werthir drwy ffenest y car
(Tudalennau 123 - 125)
Tai
3.5 P-05-1083 Dylid gwarchod lesddeiliaid yng Nghymru rhag talu am waith adfer cladin
(Tudalennau 126 - 129)
Diwylliant, twristiaeth a chwaraeon
Caiff y ddwy eitem a ganlyn eu grwpio i gael eu trafod gyda'i gilydd
3.6 P-05-1073 Sefydlu ac adeiladu cangen newydd o Amgueddfa Cymru sy’n canolbwyntio ar ran Cymru mewn trefedigaethedd
(Tudalennau 130 - 131)
3.7 P-05-1086 Dylid creu Amgueddfa Genedlaethol ar gyfer Hanes a Threftadaeth Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
(Tudalennau 132 - 135)
3.8 P-05-1130 Dylai Llywodraeth Cymru ail-brynu ac adnewyddu Coleg Harlech
(Tudalennau 136 - 142)
Addysg a’r Gymraeg
3.9 P-05-1133 Dylid addasu maes llafur hyfforddiant athrawon i gynnwys Hyfforddiant Trawsnewidiol a Deallusrwydd Emosiynol
(Tudalennau 143 - 146)
4 Trafodaeth bellach ar y trothwy llofnodion
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 6.
6 Cynllunio Llwyth Gwaith y Pwyllgor yn y Dyfodol